📌 SWYDD AR GAEL

Dewch i ymuno a'r tîm - mwy o fanylion isod 👇🏻

UCAC
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.

Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.

Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.

Cynhadledd Flynyddol UCAC 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi bydd ein Cynhadledd flynyddol eleni yn cael i gynnal wyneb yn wyneb i lawr yng Ngwesty’r Coldra Court, Casnewydd, hwn yw’r Gynhadledd cyflawn cyntaf ers cyn y cyfnod clo. Prif noddwr ein Cynhadledd eleni yw Darwin Gray.

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu Meredudd Jones, Pennaeth TG a Chyd-gysylltydd Sgiliau Digidol a Alan Thomas Williams Swyddog Cwricwlwm, Cyngor Sir Caerdydd fel ein siaradwyr gwadd.


Mae croeso mawr i bawb sy’n aelod o UCAC ac mae'n gyfle gwych i chi gymdeithasu, sgwrsio a rhannu profiadau gyda chyd aelodau a llawer mwy...

Os oes gyda chi diddordeb ymuno â ni – cysylltwch a This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. 01970 639 950 

ATHRAWON DAN HYFFORDDIANT

AELODAETH AM DDIM

Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.

Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.


ATHRAWON NEWYDD GYMHYWSO

BLWYDDYN O AELODAETH AM DDIM
gyda'r flwyddyn ganlynol yn hanner pris

Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.

Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.

Os ydych chi'n ymuno am y tro cyntaf
Os ydych chi'n aelod yn barod

 TRYDAR

UCAC

Dathlwn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw gan ddiolch am gyfraniad holl aelodau a staff benywaidd UCAC dros y blynyddoedd. 👩🏽‍🏫👱🏼‍♀️👩🏼‍🦳👩🏾‍🦱👩🏻‍🏫 #diwrnodrhyngwladolymerched2023 #cydraddoldeb

mwy...

UCAC

Dydd Gŵyl Dewi Hapus 💛🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 #dyddgwyldewi #gwnewchypethaubychain

mwy...

UCAC

📢 CHWILIO AM SWYDD? 🔍 👩🏼‍🏫 Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Athrawon dan hyfforddiant 👨🏾‍🏫 📅 20 a 22 Chwefror ⏰️ 18:00 💻 Ar-lein drwy Teams 🔗tocyn.cymru/cy/event/f6edf…

mwy...

NEWYDDION