Diolch i Capital Law am fod yn brif noddwr ein Cynhadledd Flynyddol eleni '25.
Mae Capital Law yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau cyfreithiol a chanddo brofiad helaeth ym maes Addysg. Rydym wedi cael y pleser o gefnogi UCAC a’i aelodau am yr 18 mlynedd diwethaf. Rydym yn falch o gydweithio gydag UCAC ac o fedru cynnig gwasanaeth cyflawn drwy’r Gymraeg, boed hynny mewn perthynas ag achosion yn y Tribiwnlys neu roi cyngor a chefnogaeth dros weithredu diwydiannol.
Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas gyda’r undeb a’i aelodau.