Balot am streic yn y sector Addysg Bellach

22 Rhagfyr 2014

Balot am streic yn y sector Addysg Bellach!

Mae UCAC yn cynnal balot am weithredu diwydiannol yn y sector Addysg Bellach gan gydweithio gydag undebau eraill y sector fel aelod o Cyd-undebau Llafur Addysg Bellach Cymru i drefnu’r bleidlais ar yr un pryd.

Mae’r penderfyniad yn dilyn ymateb afresymol gan Fwrdd Colegau Cymru, sy’n cynrychioli’r cyflogwyr, i gais gan yr undebau am godiad cyflog o 3% i weithwyr y sector.  Pan ddaeth newyddion annisgwyl am rewi cyflogau a chyflogwyr yn gwrthod trafod ymhellach penderfynwyd cynnal pleidlais fynegol ac yna pleidlais swyddogol . 

 
Mae holl staff Addysg Bellach (ac eithrio llawer o Benaethiaid) bellach wedi wynebu toriad mewn cyflog gwirioneddol o tua 18% yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf.  
 
Bydd y balot yn cau ar 5ed Ionawr. Mae UCAC yn pwyso ar bawb i ddefnyddio’u pleidlais.
 
Bydd y Cyd-undebau Llafur  Addysg Bellach Cymru yn cwrdd ar ôl y canlyniadau i drafod y ffordd ymlaen a bydd Adran Addysg Bellach UCAC yn cwrdd ar y 9fed Ionawr er mwyn trafod y canlyniadau a datblygiadau eraill o fewn y sector.