Cynhadledd Flynyddol UCAC: 5-6 Ebrill 2019
15 Mawrth 2019
Cynhadledd Flynyddol UCAC: 5-6 Ebrill 2019
Bydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod ar 5-6 Ebrill 2019.
Y siaradwyr gwadd fydd:
- Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru(Dydd Gwener, 5 Ebrill, 13.00)
- Guto Aaron, ymgynghorydd a hyfforddwr Technoleg Addysg, Arloeswr a Hyfforddwr ardystiedig gyda Google for Education, Cyfarwyddwr @Twt360 (Dydd Gwener, 5 Ebrill, 16.00)
- Tracey Jones, Chrysalis, sy’n “grymuso athrawon ac addysgwyr i ddatblygu cadernid personol ac yn rhoi iddynt strategaethau ymdopi ar gyfer ymdrin â phwysau bob dydd” (Dydd Sadwrn, 6 Ebrill, 10.00)
Dyma rai o’r prif bynciau fydd yn cael eu trafod fel cynigion gan aelodau i’r Gynhadledd:
- Ariannu ysgolion
- Tryloywder y consortia rhanbarthol
- Calendr ysgol sefydlog
- Recriwtio a chadw penaethiaid
- Dulliau trochi ac ariannu Canolfannau Iaith
- Iechyd a lles emosiynol disgyblion a staff ysgol
Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r cynigion, neu os hoffech wneud unrhyw drefniadau penodol i ymweld â’r gynhadledd, cynnal cyfweliadau ac ati.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 01970 639950 / 07787 572180