Uwchgynhadledd y Proffesiwn Dysgu 2017

29 Mawrth 2017

UCAC yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru yn Uwchgynhadledd y Proffesiwn Dysgu

Bydd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC yn ran o ddirprwyaeth dan arweiniad Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams a fydd yn ymweld â’r Alban yr wythnos hon ar gyfer Uwchgynhadledd y Proffesiwn Dysgu, ISTP 2017.
 
Trefnir yr Uwchgynhadledd flynyddol eleni gan Lywodraeth Yr Alban, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Education International a’r OECD a bydd cynrychiolwyr yn hedfan i Gaeredin o bob rhan o’r byd i fod yn rhan o’r digwyddiad pwysig hwn. Thema’r gynhadledd eleni fydd Grymuso a Galluogi Athrawon i Gyflawni Cyfiawnder  a Chanlyniadau Gwell i Bawb.
 
“Bydd y sesiynau yn cynnwys trafodaeth am yr hyn mae athrawon angen o safbwynt dysgu proffesiynol nawr ac yn y dyfodol a cheisio rhagoriaeth a chyfiawnder cynaliadwy i bawb,” meddai Elaine Edwards.
 
“Bydd trafodaeth yn ogystal ar yr hyn y gall llywodraethau ac undebau llafur wneud i sicrhau bod strwythurau cenedlaethol a pholisïau yn eu lle i sicrhau a chefnogi hyn,” ychwanegodd.
 
“Mae braf gallu cynrychioli athrawon Cymru efo’r Gweinidog mewn cynhadledd ryngwladol fel hyn, a hynny mewn cyfnod digon annod i’r proffesiwn, wrth i’r nifer sy’n dewis dysgu fel gyrfa ddisgyn yn flynyddol a’r nifer sy’n dewis gadael addysg gynyddu. Edrychaf ymlaen at drafodaethau aeddfed a gobeithio rhai atebion a fydd yn cynnig ffordd ymlaen i ni yng Nghymru.”
 
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag UCAC ar 01970 639 950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.