Dyfarniad Cyflog Athrawon
26 Gorffennaf 2018
Datganiad ar y cyd gan Association of School and College Leaders (ASCL) Cymru, National Association of Head Teachers (NAHT) Cymru, National Education Union (NEU) Cymru, Voice ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
Dyfarniad Cyflog Athrawon
Mae’r datganiad hwn yn dilyn cyhoeddiad ar y dyfarniad cyflog i Athrawon a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar Addysg, Damian Hinds, yn Nh?’r Cyffredin ar ddydd Mawrth 24 Gorffennaf. Mae’r ffaith bod y datganiad yn dod ar y cyd gan nifer o undebau addysg yng Nghymru yn dangos bod gennym bryder difrifol am y modd y bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ariannu yng Nghymru a’r effaith posib ar ysgolion Cymru.
Nid yw’r penderfyniad ar gyflogau athrawon yn fater sydd wedi ei ddatganoli ac mae’r dyfarniad yn berthnasol i athrawon ac arweinyddion yn Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer Lloegr a Chymru.
Mae Adran Addysg San Steffan yn darparu peth cyllid ychwanegol o fewn ei chyllidebau ei hunan ar gyfer ysgolion yn Lloegr ond nid oes cyhoeddiad wedi bod am unrhyw drefniadau ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
Mae’n annidwyll cyhoeddi dyfarniad cyflog i athrawon yn Lloegr a Chymru ac yna peidio ariannu’r dyfarniad hwnnw i gyfran o’r athrawon hynny. Mae ein hundebau yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd ar y Trysorlys i ariannu’r dyfarniad cyflog yn llawn i athrawon ac arweinyddion yn Lloegr a Chymru.
Os na fydd y Trysorlys yn ariannu’r dyfarniad yn llawn, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i brofi eu hymrwymiad i’r haeriad eu bod yn rhoi gwerth ar athrawon, trwy ddarparu’r cyllid angenrheidiol i sicrhau bod y dyfarniad yn cael ei ariannu’n llawn ac na fydd yn rhoi pwysau annerbyniol ar gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan straen dybryd. Yn anochel, bydd y costau ychwanegol yn gyrru mwy o ysgolion i ddiffyg ariannol gan arwain at doriadau fydd yn cael effaith ar y disgyblion.
Rydym wedi synnu ac wedi’n siomi o weld ei bod hi’n ymddangos bod cyn lleied o ystyriaeth wedi ei roi i gyllido’r dyfarniad yng Nghymru. Byddem wedi disgwyl y byddai ystyriaeth wedi ei roi i'r mater cyn y cyhoeddiad dydd Mawrth ac y byddai’r cyhoeddiad wedi cynnwys Gwybodaeth ar y modd y byddai’r dyfarniad yn cael ei gyllido yng Nghymru.
Rydym yn anfon y datganiad hwn i’r Trysorlys, Adran Addysg San Steffan a Llywodraeth Cymru ac yn eu gwahodd hwy i ymateb i’n sylwadau.
Rydym yn nodi hefyd nad yw’r dyfarniad cyflog ei hun yn cydnabod gwaith caled na phroffesiynoldeb nifer o uwch athrawon ac arweinyddion. Wrth groesawu’r codiad cyflog o 3.5% - ar ôl nifer o flynyddoedd ble mae cyflogau wedi eu capio a’u rhewi - nodwn y bydd cyflogau uwch ac arweinyddol yn derbyn dyfarniad sy’n is na’r raddfa chwyddiant a hynny’n mynd yn gwbl groes i gyngor annibynnol y School Teacher Review Body i roi dyfarniad o 3.5% iddynt.
Gan mai cynnydd costau byw yw hwn mae’n gwbl annerbyniol ei dalu ar wahanol raddfeydd gan fod pob athro ac arweinydd yn haeddu dyfarniad sydd o leiaf yn cynnal gwerth eu cyflogau. Nid yw ychwaith yn mynd i’r afael â’r angen i sicrhau ein bod yn dal ein gafael ar yr athrawon a'r arweinyddion profiadol yn y proffesiwn.