Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Chwefror 2025
Mae nifer o aelodau wedi cysylltu â ni yn mynegi pryder ynghylch amseriad cyflwyno’r cwrs TGAU newydd Astudiaethau Crefyddol. Mae’r cwrs TGAU newydd Hanes eisoes wedi ei ohirio am flwyddyn. Penderfynwyd ar yr oedi hyn yn sgil pwysau o nifer o gyfeiriadau a gallwn eich sicrhau fod UCAC wedi bod yn rhan o’r pwyso hynny ar CBAC. Yn yr un modd, rydym wedi bod yn cysylltu gyda CBAC am y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol ac wedi mynegi ein pryder fod nifer o ddogfennau a hyfforddiant allwedol wedi eu cyflwyno’n hwyr iawn, gan olygu mai prin iawn yw’r amser paratoi i athrawon. Mae llythyr wedi ei anfon at swyddogion CBAC, gan gynnwys y Prif Weithredwr, yn erfyn arnynt i roi ystyriaeth ddifrifol i’n cais i ohirio cyflwyno’r cwrs newydd hwn. Mae’n rhaid wrth amser digonol i athrawon allu paratoi, os ydym am i’r cyrsiau newydd yma lwyddo. Byddai oedi yn fanteisiol i les athrawon a dysgwyr.
Ionawr 2025
Mae gan Education Support ystod o ddosbarthiadau meistr llesiant rhyngweithiol a chyffrous i reolwyr ac arweinwyr ysgol. Maent yn rhad ac am ddim, felly beth am gofrestru?
Dyma ychydig fwy o wybodaeth am y cyrsiau:
Mae’r dosbarth meistr hwn, ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ysgol sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd yn edrych ar nifer o ddamcaniaethau/modelau ymarferol gan gynnwys y cylch galar a ddaw yn sgil diswyddo a’r gromlin newid. Bydd hefyd yn edrych ar sut i drin eraill yn deg, meddwl am effaith y broses, cynnig cefnogaeth briodol, yn rhoi ystyriaeth i faterion megis tôn llais, agwedd a thosturi ac yn rhoi sylw i’r ffordd y mae'r gyfraith yn ystyried gwaharddiadau.
Bydd y dosbarth meistr hwn, a gyflwynir gan hwylusydd arbenigol Sonia Gill, yn rhannu sut y mae perfformiad uchel a hapusrwydd yn cydblethu ac yn dangos nad ydynt yn annibynnol ar ei gilydd.
Cyflwynir y dosbarth gan hwylusydd arbenigol, Helen Clare. Mae’n ddosbarth ar gyfer dynion a’r rheini a bennwyd yn ddynion ar eu genedigaeth a bydd yn rhoi dealltwriaeth o heriau’r peri-menopos a’r menopos o fewn ysgol. Yn dilyn y cwrs, dylai mynychwyr deimlo’n fwy hyderus i gynnal sgyrsiau gyda chydweithwyr ac aelodau tîm am y menopos. Bydd y cwrs yn galluogi mynychwyr i gefnogi cydweithwyr neu eu cyfeirio at gefnogaeth briodol. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg o’r newydd ar sut i greu diwylliant sy’n annog sgwrs agored am y menopos.
Ymunwch â’r arbenigwr ‘menopos yn yr ysgol’, Helen Clare, a fydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ymarferol i staff addysgu yng Nghymru sut i ddelio â’r peri-menopos/menopos o fewn ysgol.
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan AIM Development