Cynllun Teachers' Pensions

14 Tachwedd 2018

Cynllun Teachers' Pensions

Bydd nifer helaeth o'n haelodau yn perthyn i'r Cynllun Teachers' Pensions.

Erbyn hyn bydd nifer o'r aelodau hynny wedi cofrestru ar ardal My Pension Online gwefan y cynllun gyda chynnydd sylweddol yn y nifer sydd wedi cofrestru yn y deuddeng mis diwethaf - dros 15,000 aelod y mis.

Trwy gydol y flwyddyn mae swyddogion UCAC yn mynychu cyfarfodydd gyda Capita, sy'n gweinyddu'r Cynllun, er mwyn ystyried pa mor effeithiol yw'r Cynllun a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.

Roedd yr Ysgrifenydd Cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young, mewn cyfarfodydd ar Ddydd Llun, Tachwedd 12fed yn swyddfeydd Llundain Capita yn ystyried y modd mae'r Cynllun yn ymgysylltu gyda'r aelodau.

Roedd neges ddiddorol yn codi o'r cyfarfodydd am yr angen i aelodau edrych ar eu 'cyfrif' Teachers' Pensions fel pe bydden nhw'n edrych ar eu ‘cyfrif’ banc.

Mae gwefan My Pensions Online yn derbyn dros ddeugain miliwn ymweliad y flwyddyn gyda dros ddwy filiwn o ymweliadau i'r adran ar ddatganiad buddiannau.

Ar adegau yn ystod eu gyrfa bydd aelodau o'r Cynllun yn cysylltu gyda'r cyflogwr a'r undebau gydag ymholiadau am eu pensiwn. Rhaid pwysleisio bod y ffigyrau sydd ar gael i'r aelodau ar wefan My Pensions Online yn rhai gyfredol a chywir.

Mae UCAC felly’n annog aelodau i gofrestru ar y gwasanaeth My Pensions Online ac i wirio bod y wybodaeth amdanynt yn gyfredol ac yn gywir. Eich arian chi yw arian y Cynllun sy'n cael ei weinyddu gan Capita ac mae angen sicrhau bod pob diwrnod o'ch gwasanaeth wedi ei gofnodi.

Rhan o'r adborth sydd gennym wrth baratoi ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw'r ymholiadau yr ydym yn ei gael gan aelodau. O ran cyfathrebu mae nifer yn mynegi diffygion o ran y Gymraeg ac mae'n bwysig nodi bod pob ffurflen ar gael yn y Gymraeg gan Capita. Er mwyn dangos bod galw am y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg - mynnwch yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg!

Os oes gennych ymholiad am eich pensiwn cysylltwch gyda'ch swyddog maes ac er mwyn bod y wybodaeth gyfredol gennych cofrestrwch ar wefan Teachers' Pensions.