Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

22 Hydref 2019

Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC ar 22 Hydref ynghylch dyfarniad cyflog i athrawon ysgol ar gyfer 2019-20, mae undeb athrawon UCAC wedi rhybuddio na ddylai’r codiad cyflog ddod ar draul toriadau pellach i gyllidebau ysgolion.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Er ein bod ni wedi galw am godiad cyflog o 5% i bawb yn y proffesiwn, mae UCAC yn cydnabod bod y dyfarniad o 2.75% yn symud i gyfeiriad adfer gwerth cyflogau athrawon.

“Rydym yn croesawu, yn ogystal, y ffaith bod y Gweinidog wedi rhagori ar argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sef 2.4%.

“Mae’r £12.8 miliwn mae Llywodraeth Cymru’n darparu i Awdurdodau Lleol ond yn gyfraniad tuag at gyllido’r dyfarniad cyflog, ac rydym yn pryderu’n fawr y bydd hyn yn achosi toriadau pellach i gyllidebau ysgolion pan maen nhw eisoes ar lefelau peryglus o isel. Allwn ni ddim caniatáu hynny.

“Rydym yn pwyso ar bawb i symud ymlaen nawr i adfer y graddfeydd cyflog, ac i ystyried amodau gwaith yn ogystal â thâl yng nghylch gorchwyl nesa’r Corff Adolygu.”

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.