Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

17 Rhagfyr 2015

Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dylai darpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn elfen greiddiol a chanolog o ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac nid ystyriaeth ymylol fel sydd ar hyn o bryd.

Dyma yw galwad Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) a mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wrth ymateb i ymgynghoriad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft sy’n dirwyn i ben ar Ragfyr 18fed.

Ymhellach at hynny mae’r mudiadau’n galw am gadarnhau bod iaith yn angen (need) fel egwyddor sylfaenol ar wyneb y Bil, a thrwy hynny sefydlu’r hawl i ddewis a derbyn darpariaeth neu wasanaeth cefnogol trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,“Polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg Gymraeg trwy ehangu’r ddarpariaeth. Tra bod twf wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nid oes tystiolaeth o dwf cyffelyb yn y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifainc ag anghenion addysgol ychwanegol.
 
“Mae’n syfrdanol felly bod ystyriaethau allweddol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn parhau i fod ar goll yn y Bil a’r dogfennau ategol. Caiff unrhyw ymdrechion i sefydlu cyfundrefn sy’n fwy cynhwysol a chyfannol drwy’r cynigion deddfwriaethol dan sylw eu tanseilio’n syth o ganlyniad i ddiffyg cydnabyddiaeth o’r cyd-destun ieithyddol yng Nghymru.
 
“Credwn fod llunio deddfwriaeth newydd a mawr ei angen yn y maes yn cynnig cyfle i osod gwaelodlin a fyddai’n sefydlu’r egwyddor o hawl i ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anhawsterau dysgu yn unol â dewis iaith y rhiant. Galwn ar y Llywodraeth i beidio afradu’r cyfle hwnnw trwy ailedrych ar y drafft presennol i sicrhau na fydd darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod ar sail loteri cod post.”
 
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC "Rydym ni wedi cael siom a sioc nad oes yr un cyfeiriad at y Gymraeg yn y Bil drafft. O'r herwydd, nid oes unrhyw obaith gan y Bil ar ei ffurf bresennol i fynd i'r afael â'r problemau systemig o ran darpariaeth Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - sef rhai'n o'n dysgwyr fwyaf bregus.
 
"Er bod llawer i'w groesawu yn y Bil, mi fydd yn anodd i UCAC roi ei gefnogaeth iddo oni bai bod cydnabyddiaeth o'r egwyddor sylfaenol o drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd."
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG ar 07912175403 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.