Carreg filltir pwysig yn hanes undebau llafur yng Nghymru

20 Gorffennaf 2017

Carreg filltir pwysig yn hanes undebau llafur yng Nghymru

Mae UCAC yn croesawu canlyniad y bleidlais yn y Senedd ddoe o blaid derbyn Bil Undebau Llafur (Cymru).  Yn y bleidlais derfynol pleidleisiodd 38 o Aelodau'r Cynulliad o blaid ac 13 yn erbyn a neb yn ymatal.

Dyma garreg filltir pwysig yn hanes undebau llafur yng Nghymru ac mae'r Bil yn enghraifft o lwyddiant datganoli yng Nghymru, gyda'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio gydag undebau llafur er mwyn cryfhau'r sector gyhoeddus.
 
Yn gryno, bydd Bil Undebau Llafur (Cymru) - fydd nawr yn symud ymlaen i dderbyn Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn Ddeddf - yn ymwrthod â 3 adran greiddiol yn Neddf Undebau Llafur 2016 y Deyrnas Unedig mewn perthynas â'r sectorau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli (e.e. addysg, iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau tân ac achub). Y 3 adran na fydd yn gymwysedig fydd:
  • Trothwy balot o 40% ar gyfer gweithredu diwydiannol fyddai'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig
  • Pwerau i fynnu bod gwybodaeth am amser undebol (facility time) yn cael eu cyhoeddi a phwerau fyddai'n gosod amodau ar gyflogwyr sector cyhoeddus mewn perthynas â dyletswyddau amser undebol
  • Cyfyngiadau ar dynnu tanysgrifiadau undebol o gyflogau gan gyflogwyr ("check-off")
Mae'r Bil hefyd yn diogelu ac yn atgyfnerthu'r gyfraith gyfredol mewn perthynas â gweithwyr asiant/dros dro mewn cyfnod o weithredu diwydiannol, gan sicrhau na fydd unrhyw benderfyniadau gan Lywodraeth San Steffan i newid y gyfraith gyfredol yn y maes hyn yn yn berthnasol i Gymru.
 
Gallwch weld copi o'r Bil terfynol yma.
 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.