Canlyniadau graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol yn adlewyrchiad o broffesiynoldeb athrawon a darlithwyr

13 Awst 2015

Canlyniadau graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol yn adlewyrchiad o broffesiynoldeb athrawon a darlithwyr sydd yn rhoi myfyrwyr yn gyntaf

"Mae UCAC yn  llongyfarch y myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach sydd wedi derbyn ei graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol  heddiw.  Mae llwyddiant y myfyrwyr yn adlewyrchiad o'u gwaith caled a gwaith caled eu hathrawon a'u darlithwyr trwy gydol eu hamser mewn ysgol neu goleg", medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

"Mae'r canlyniadau eleni yn adlewyrchiad o broffesiynoldeb athrawon a darlithwyr sydd yn rhoi myfyrwyr yn gyntaf".

"Braf gweld Bagloriaeth Cymru  yn parhau i gynnig cyfleoedd arbennig i fyfyrwyr Cymru i ymestyn amrywiaeth eu sgiliau ac i baratoi'n well ar gyfer astudio pellach neu fyd gwaith".

"Wrth gwrs, bydd rhai myfyrwyr yn siomedig gyda'u graddau a gall fod yn gyfnod ansicr iddyn nhw, ond bydd drysau eraill yn agor wrth iddynt gael amser i ail ystyried eu dewisiadau".