Buddsoddiad mewn Dysgu Proffesiynol yn hanfodol

12 Tachwedd 2018

Buddsoddiad mewn Dysgu Proffesiynol yn hanfodol

Mewn ymateb i ddatganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae undeb addysg UCAC wedi dweud bod dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yn hanfodol os yw’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd i lwyddo.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae’n anodd dirnad maint a dyfnder y newidiadau sy’n dod i’n system addysg dros y blynyddoedd nesaf. Ffolineb llwyr fyddai meddwl bod diwygiadau ar y fath raddfa’n bosib heb fuddsoddiad sylweddol iawn mewn dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu.

“Rydym yn falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid penodol er mwyn hwyluso’r math o ddysgu proffesiynol sydd ei angen, gyda phwyslais ar ddulliau amrywiol a hyblygrwydd, a hynny law yn llaw gyda lles athrawon.

“Cytunwn â hi bod angen sicrhau’r lefelau a’r safonau priodol o ddysgu proffesiynol tra’n gochel rhag tarfu ar addysg disgyblion ar y naill law, a rhag pentyrru gofynion afresymol ar y gweithlu ar y llaw arall. Er mwyn neilltuo’r amser sy’n angenrheidiol, rhaid buddsoddi.

“Edrychwn ymlaen at weld manylder y cynigion o ran yr opsiynau amrywiol sydd ar gael, gan obeithio y byddant – fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, a’r proffesiwn ei hun yn ei obeithio - yn arwain at ‘weddnewid sut mae athrawon yn dysgu’n llwyr’ ar gyfer y tymor hir.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.