Bandio ysgolion: gwastraff amser ac adnoddau

12 Rhagfyr 2013

Bandio Ysgolion: gwastraff amser ac adnoddau

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau bandio ysgolion uwchradd Cymru heddiw, dywedodd llefarydd ar ran UCAC:
 
“Mae pob blwyddyn ychwanegol o ganlyniadau bandio yn pwysleisio pa mor ddiystyr yw’r broses a’r wybodaeth sy’n deillio ohoni.
 
“Oes, mae angen i’r Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol gallu adnabod yr ysgolion hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol – mae hynny’n berffaith rhesymol. Fodd bynnag, byddai modd gwneud hynny ar sail cyfres o eitemau unigol o ddata ynghylch perfformiad ysgol.
 
 “Yr hyn sy’n gwneud y system fandio’n ddiystyr yw’r ymgais i gyfuno gwahanol fathau o ddata i un ffigwr, ac un categori sydd, yn y diwedd, yn anwadal ac annibynadwy. Yn waeth na hynny, mae’n gamarweiniol, ac yn enwedig felly i rieni a chymunedau lleol.”
 
“Mewn cyfnod ble mae angen inni ganolbwyntio ein hegni, ein hamser a’n hadnoddau prin ar godi safonau addysg, mae UCAC o’r farn bod y system fandio’n eithriadol o aneffeithiol yn y dasg y mae’n ceisio’i gyflawni.”
 
“Galwn unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar y system. Nid yw chwarae o gwmpas gyda’r eitemau data unigol yn ddigonol – mae angen dileu’r system hon yn ei chyfanrwydd.”
 
Am fanylion pellach cysylltwch â:
 
Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 07787 572180