Athrawon cyflenwi'n parhau i ddioddef anghyfiawnder

16 Rhagfyr 2015

Athrawon cyflenwi’n parhau i ddioddef anghyfiawnder

Yn sgil cyhoeddi adroddiad ar waith athrawon cyflenwi heddiw, 16 Rhagfyr, mae undeb athrawon UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd â’r afael â’r telerau anghyfiawn sy’n wynebu athrawon cyflenwi.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae’r adroddiad yn cynnwys 22 argymhelliad.

Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae UCAC yn falch bod y Pwyllgor yn derbyn nad yw’r model cyflenwi presennol yn gweithio’n effeithiol – i’r athrawon eu hunain, nac i ddisgyblion. Mae hyn wedi bod yn wir ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae’r sefyllfa’n gwaethygu.
 
“Mae athrawon cyflenwi’n wynebu telerau anghyfiawn ym mron pob agwedd o’u cyflogaeth - tâl isel, dim sicrwydd gwaith, dim tâl gwyliau na salwch, bron dim hyfforddiant, dim cyfraniadau pensiwn. Maent i raddau helaeth ar drugaredd yr asiantaethau preifat sydd â diddordeb mewn un peth yn unig, sef gwneud elw ar draul ein system addysg.
 
“Mae effeithiau’r system hon ar athrawon sy’n newydd i’r proffesiwn yn arswydus – ac yn golygu bod llawer yn gadael y proffesiwn heb gael cyfle i weithredu dan amodau derbyniol.
 
“Cytunwn â’r Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau cynllunio model newydd yn syth bin – model sy’n rhoi mynediad at amodau a thelerau gwaith cenedlaethol athrawon. Mae hyn yn fater o degwch sylfaenol, ac yn gam angenrheidiol i sicrhau safonau addysgol uchel.”
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Williams ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.