Angen dyblu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon â sgiliau Cymraeg, medd adroddiad

1 Hydref 2018

Angen dyblu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon â sgiliau Cymraeg, medd adroddiad

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu dadansoddiad ac argymhellion adroddiad a gyhoeddwyd ar 28 Medi ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC: "Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn mae UCAC wedi bod yn pwysleisio ers sawl blwyddyn sef bod y ddarpariaeth o ran sgiliau Cymraeg oddi fewn i raglenni Addysg Gychwynnol athrawon yn anghyson, yn dameidiog ac - mewn gwirionedd - yn gwbl annigonol. Nid yw’n dod yn agos at gyflenwi anghenion ysgolion ar hyn o bryd, heb sôn am y twf mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arno i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Mae’r gwerthusiad yn llygad ei le pan ddywed bod angen i Addysg Gychwynnol Athrawon “bron ddyblu nifer yr hyfforddeion sy’n cael eu hyfforddi’n flynyddol” â sgiliau Cymraeg. Collwyd cyfle pwysig iawn i nodi gofynion mwy pendant ac uchelgeisiol adeg llunio’r meini prawf achredu ar gyfer y darparwyr oedd am gynnig y cyrsiau Addysg Gychwynnol newydd o fis Medi 2019.

“Cytunwn â’r argymhelliad y dylai darpariaeth sgiliau Cymraeg – wedi’i deilwra’n briodol, a gyda lefelau addas o gefnogaeth - fod yn elfen orfodol o bob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon.

“Pwyswn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar sail yr argymhellion yn y gwerthusiad. Fel arall, byddwn yn colli cyfle ar ôl cyfle i adeiladu’r seilwaith sy’n angenrheidiol ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. Heb athrawon â’r sgiliau priodol, nid yw twf yn bosib.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.