“Ysgolion Cymru mewn argyfwng”, dywed undebau addysg

4 Mawrth 2019
Embargo: 00.01 5 Mawrth 2019

“Ysgolion Cymru mewn argyfwng”, dywed undebau addysg

Bydd aelodau undebau addysg yn cwrdd ag aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw i drafod argyfwng ariannu ysgolion yng Nghymru.

Bydd ASCL, NAHT, NEU Cymru ac UCAC yn cynnal sesiwn galw-i-mewn lle gall Aelodau Cynulliad siarad yn uniongyrchol â gweithwyr addysg proffesiynol am effaith toriadau ariannu ar eu hysgolion - o ddileu swyddi, i feintiau dosbarth mwy, llai o gefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol a chynnydd yn y llwyth gwaith a straen ar y gweithlu.

Tynna’r undebau sylw at effaith polisïau llymder ar ariannu Llywodraeth Cymru. Galwant hefyd ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i edrych ar dryloywder a thegwch ar draws y system, i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu yn deg ac yn glir.

Dywedodd Tim Pratt, Cyfarwyddwr ASCL Cymru “Mae cyllidebau ysgolion mewn argyfwng gyda mwy a mwy o ysgolion yn methu cael deupen llinyn ynghyd. Mae pob arbediad posibl wedi’i wneud, bellach nid oes unrhyw beth ar ôl i’w dorri ac eithrio staff gyda’r canlyniadau  trychinebus y bydd hyn yn sicr o’u cael ar ein pobl ifanc yng Nghymru. 

“Ar adeg pan mae nifer o fentrau newydd cyffrous o fewn addysg yng Nghymru, er mwyn i’r system lwyddo, rhaid iddi gael ei hariannu yn gywir.”

Dywed Rob Williams, Cyfarwyddwr NAHT Cymru “Nid oes digon o ariannu yn cael ei roi i ysgolion yng Nghymru ac mae cyllidebau ysgol ar fin torri. Mae’n effeithio ar ansawdd yr addysg y mae ysgolion yn gallu ei gyflenwi i blant.

“Rhaid i’r ymdriniaeth annealladwy gyfredol tuag at ariannu ysgolion newid ac mae buddsoddiad ychwanegol i addysg o’r pwys mwyaf erbyn hyn.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu addysg yng Nghymru.

“Mae angen i rieni wybod bod gan eu plentyn fynediad at ariannu digonol, teg a thryloyw i’w hysgol, waeth lle y maen nhw’n byw yng Nghymru.”

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru i NEU Cymru “Mae ein haelodau yn gwbl glir – mae angen mwy o ariannu i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn gallu darparu’r addysg gofynnol i’n dysgwyr. Mae gweithwyr addysg proffesiynol yn wynebu mwy o bwysau o ran llwyth gwaith a disgwyliadau, heb yr ariannu sy’n ofynnol. Ni all hyn barhau.”

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Nid oes ariannu digonol yn cyrraedd ein hysgolion - does dim amheuaeth am hynny. Serch hynny, mae bron yn amhosibl gweld yn union le y mae arian addysg yn cael ei wario ar draws y system gyfan. Rhaid i ni wella tryloywder gwariant addysg ar frys, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl ar yr arian sydd ar gael.”

DIWEDD

ASCL Cymru: Tim Pratt, 07834 175284

NAHT Cymru: Rob Williams, 07710 087 283

NEU Cymru: David Evans, 07815 071164

UCAC: Rebecca Williams, 07787 572180