Ymgais i leihau llwyth gwaith

14 Medi 2017

Ymgais i leihau llwyth gwaith

Heddiw (14 Medi 2017) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n buddsoddi £1.28m mewn cynllun peilot i ariannu Rheolwyr Busnes mewn clystyrau o ysgolion cynradd. Bwriad y cynllun yw lleihau'r baich gweinyddol ar benaethiaid er mwyn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar faterion addysgol.

Yn ogystal heddiw, cafodd canllaw 'Lleihau Baich Gwaith' ei gyhoeddi sydd wedi'i lunio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, Cyngor y Gweithlu Addysg, ac undebau addysg.

Mewn ymateb i'r datblygiadau hyn, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC:

"Mae gofynion biwrocrataidd wedi bod yn pentyrru o bob cyfeiriad ar athrawon a phenaethiaid ers rai blynyddoedd, nes cyrraedd lefelau cwbl afresymol ac anghynaladwy. Mae'r effeithiau ar iechyd unigolion ac ar awyrgylch ac effeithlonrwydd ysgolion wedi bod yn ddinistriol.

Felly mae UCAC yn falch iawn i weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Credwn fod gan y cynllun i beilota'r defnydd o Reolwyr Busnes y potensial i leihau'r baich gweinyddol ar benaethiaid yn sylweddol, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar flaenoriaethau addysgiadol.

Ar yr un pryd, mae'r canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi yn ddefnyddiol o ran cynnig eglurder ynghylch yr hyn sydd wir yn ofynnol i athrawon - a'r hyn sy'n mynd i tu hwnt i ofynion rhesymol. Nid yw'r ffin hwnnw wastad wedi bod yn glir.

Bydd angen monitro llwyddiant y cynlluniau peilot yn ofalus, gan obeithio y bydd modd ymestyn y cynllun gydag amser i gynnwys pob ysgol yng Nghymru, yn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ond mae rhagor i'w wneud. Mae angen gorolwg o'r gofynion gweinyddol ar ysgolion, a sicrhau fod unrhyw ofyniad newydd yn wirioneddol angenrheidiol, ac, yn ddelfrydol, yn disodli gofynion blaenorol eraill, yn hytrach nag yn ychwanegu atynt.

Rydym wedi caniatáu i lwyth gwaith athrawon a phenaethiaid fynd allan o reolaeth yn llwyr; dyma gamau cychwynnol pwysig i dorri drwy'r gwallgofrwydd ac ailsefydlu fframwaith rhesymol - gan roi'r cyfle i athrawon a phenaethiaid ganolbwyntio ar roi addysg o safon i'r disgyblion."