Gwybodaeth gan UCAC: athrawon cyflenwi

4 Mai 2020

Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn parhau mewn cyfnod anodd iawn i’r sector addysg ac i’r wlad. Ymhellach, rydym yn llwyr ymwybodol eich bod fel aelodau cyflenwi/llanw yn parhau i wynebu cyfnod ansicr iawn yn ariannol, yn enwedig y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau neu’n disgwyl i gwmni ambarél sicrhau ‘furlough’ os ydych yn gweithio i asiantaeth. 

Oherwydd hynny, rydym yn parhau i drafod â’r awdurdodau ar ran pob un ohonoch. 

Ymhellach, o ran y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau rydym yn rhoi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i weithredu er mwyn sicrhau bod cyfarwyddiadau clir yn cael eu trosglwyddo at sylw’r awdurdodau a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r cynllun cymorth ariannol sy’n bodoli. 

Yn ogystal, mae’r trafodaethau’n parhau ag uwch swyddogion Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru. Rydym yn disgwyl arweiniad pellach o ran ‘furlough’ a’r sector gyhoeddus yn fuan, a mawr obeithiwn y bydd hyn yn gymorth wrth i ni frwydro i sicrhau tegwch i chi.  

Yn ein cyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams dydd Iau diwethaf bu i ni godi’r mater unwaith eto ac rydym wedi ail-bwysleisio fod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y mater hwn ar fyrder er mwyn i athrawon cyflenwi sy’n cael eu cyflogi drwy awdurdod lleol dderbyn yr un cymorthdal ag athrawon eraill sy’n gwneud gwaith cyflenwi. 

I'r rhai ohonoch sy’n gweithio drwy asiantaeth, ond yn derbyn eich cyflog drwy gwmni ambarél, rydym yn ymwybodol bod trafferthion yn codi o’r ffaith mai’r cwmnïau ambarél sy’n gwneud cais ‘furlough’ ar eich rhan. Rydym  yn parhau i wirio’r sefyllfa ac os oes unrhyw beth penodol yn codi o ran eich taliadau ‘furlough’ byddwn yn hapus iawn i gysylltu gyda’r cwmni ambarél ar eich rhan os ydych yn dymuno hynny. 

Byddwn yn cysylltu eto pan fydd unrhyw wybodaeth bellach gennym ond cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw bryder penodol.