Galw ar Lywodraeth San Steffan i flaenoriaethu byd addysg

11 Mai 2015

Galw ar Lywodraeth San Steffan i flaenoriaethu ariannu byd addysg

Yn y Sunday Times ddoe cyhoeddwyd llythyr agored i'r Llywodraeth Geidwadol newydd gan UCAC ag undebau eraill sydd yn cynrychioli athrawon a darlithwyr ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Galwodd UCAC, ATL, EIS, INTO, NAHT, NUT, SSTA, UCU, UTU, ar y Llywodraeth i flaenoriaethu ariannu byd addysg gan ddwyn sylw at bwysigrwydd addysg nid yn unig i ddisgyblion a myfyrwyr o bob oedran, ond hefyd er mwyn tyfiant yr economi.

Fel undebau rydym yn pwyso ar Lywodraeth newydd David Cameron i flaenoriaethu cyllido addysg er mwyn sicrhau bod addysg ym mhob un o'r gwledydd hyn yn cael ei amddiffyn fel buddsoddiad yn y dyfodol - rhaid cydnabod gwerth addysg nid dim ond cyfrif y gost!

I ddarllen y llythyr yn ei gyfanrwydd, cliciwch yma.