Galw ar aelodau etholedig Cynulliad Cymru i ddiogelu Llywodraeth Leol

5 Awst 2015

Galw ar aelodau etholedig Cynulliad Cymru i ddiogelu Llywodraeth Leol

Mae UCAC, mewn cydweithrediad â nifer o undebau eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn cefnogi ymgyrch ddeiseb sydd yn galw ar aelodau etholedig Cynulliad Cymru i ddiogelu Llywodraeth Leol wrth bennu cyllidebau'r Hydref.  
 
Nod yr ymgyrch sydd yn cael ei arwain gan UNSAIN yw:
  • diogelu'r gwasanaethau yr ydym oll yn dibynnu cymaint arnynt;
  • diogelu ein swyddi yn y sector gyhoeddus.
Gofynnwn yn garedig i chi lofnodi'r llythyr ac arwyddo'r deisebau sydd i'w cael yma:
 
 
Mae arwyddair yr ymgyrch y glir: trwy gydweithio FE ALLWN ni orfodi newid!
 
Gareth Morgan
Llywydd cenedlaethol ac Ysgrifennydd Sir Castell-nedd Port Talbot