Diweddariad: Coronafeirws

24 Ebrill 2020 

Diweddariad: Coronafeirws

Mae'r canllawiau ar gyfer hybiau ac ysgolion yng nghyfnod coronafeirws bellach ar wefan Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/canllawiau-i-hybiau-ac-ysgolion-coronafeirws

Hefyd, mae diweddariad am brydau ysgol am ddim yn ystod pandemig y coronafeirws ar gael yma:
https://llyw.cymru/cymru-ywr-wlad-gyntaf-yn-y-du-i-warantu-cyllid-parhaus-er-mwyn-i-blant-barhau-i-dderbyn-prydau

Rydym, ar y cyd gydag undebau eraill, yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar eich rhan. Mae’r ddogfen ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu’ yn cynnig amlinelliad o’r ymdrechion i ‘liniaru effaith cau ysgolion ar ein plant, yn enwedig y plant hynny sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig y bydd y sefyllfa bresennol yn effeithio fwyaf arnynt’:
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-04/cadwn-diogel-dal-ati-i-ddysgu.pdf

Carwn bwysleisio ein bod yn parhau i sicrhau gwasanaeth llawn i’n haelodau ac mae modd cysylltu gyda ni yma:

Ffôn: 01970 639950
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.