Diweddariad: Aelod Cyflenwi/Llanw DR

7 Mai 2020

Diweddariad: Aelod Cyflenwi/Llanw

Rydym yn deall bod nifer ohonoch wedi bod yn pryderu am eich sefyllfa ariannol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym, wrth gwrs, wedi bod yn rhannu eich pryder ac wedi ceisio gweithredu er mwyn sicrhau bod tegwch a haeddiant.

Wedi sawl wythnos o drafod â’r Llywodraeth a chyfathrebu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym bellach mewn sefyllfa i ddatgan eu bod hwy o’r farn y dylech dderbyn cyflog yn ystod y cyfnod heriol yma. O’r hyn yr ydym yn ei ddeall maent yn disgwyl i athrawon cyflenwol sydd â chyflogaeth ‘ad-hoc’ o ran nifer yr oriau dros gyfnod byr neu ganolig dderbyn cymorth ariannol.

Yr hyn maent yn ei gynghori i awdurdodau yw bod athrawon cyflenwol yn derbyn cyflog yn seiliedig ar gyfartaledd cyflog 12 wythnos, a bod y cyflog yn cael ei dalu yn ystod cyfnod cau’r ysgolion ar gyfer pwrpasau addysg. 

Mae un awdurdod eisoes yn ymgynghori ar gynllun fyddai’n gwireddu hyn, ac mae yna awdurdod arall wedi datgan eu bod am weithredu ar hyn. Yn anffodus, er ein bod wedi cysylltu ag awdurdodau’r Gogledd Orllewin i ofyn am eu hymateb i’r Cyngor, rydym eto i glywed ganddynt.

Cam nesaf UCAC yw tynnu sylw Cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad yr awdurdodau hynny at y Cyngor a’r angen i weithredu ym mhob Awdurdod.   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu gyda:

Mererid Lewis Davies, Swyddog Maes y De-ddwyrain: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ioan Rhys Jones, Swyddog Maes Y Gogledd: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gareth Morgan, Swyddog Maes y Canolbarth a'r de-ddwyrain:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gan obeithio eich bod yn ddiogel ac iach cofiwch bod UCAC yma i chi ar gyfer pob ymholiad.